YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 66

66
I'r Cyfarwyddwr: Cân. Salm.
1Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;
2canwch i ogoniant ei enw;
rhowch iddo foliant gogoneddus.
3Dywedwch wrth Dduw, “Mor ofnadwy yw dy weithredoedd!
Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen;
4y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen,
ac yn canu mawl i ti,
yn canu mawl i'th enw.”
Sela
5Dewch i weld yr hyn a wnaeth Duw—
y mae'n ofnadwy yn ei weithredoedd tuag at bobl—
6trodd y môr yn sychdir,
aethant ar droed trwy'r afon;
yno y llawenychwn ynddo.
7Y mae ef yn llywodraethu â'i nerth am byth,
a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd;
na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn!
Sela
8Bendithiwch ein Duw, O bobloedd,
a seiniwch ei fawl yn glywadwy.
9Ef a roes le i ni ymysg y byw,
ac ni adawodd i'n troed lithro.
10Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw,
ac yn ein coethi fel arian.
11Dygaist ni i'r rhwyd,
rhoist rwymau amdanom,
12gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau,
aethom trwy dân a dyfroedd;
ond dygaist ni allan i ryddid#66:12 Felly Fersiynau. Hebraeg, i ddigonedd..
13Dof i'th deml â phoethoffrymau,
talaf i ti fy addunedau,
14a wneuthum â'm gwefusau
ac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.
15Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau,
a hefyd hyrddod yn arogldarth;
darparaf ychen a bychod geifr.
Sela
16Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw,
ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.
17Gwaeddais arno â'm genau,
ac yr oedd moliant ar fy nhafod.
18Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon,
ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;
19ond yn wir, gwrandawodd Duw,
a rhoes sylw i lef fy ngweddi.
20Bendigedig fyddo Duw
am na throdd fy ngweddi oddi wrtho,
na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.

Currently Selected:

Y Salmau 66: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in