YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 93

93
1Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo â mawredd,
y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo.
Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir;
2y mae dy orsedd wedi ei sefydlu erioed;
yr wyt ti er tragwyddoldeb.
3Cododd y dyfroedd, O ARGLWYDD,
cododd y dyfroedd eu llais,
cododd y dyfroedd eu rhu.
4Cryfach na sŵn dyfroedd mawrion,
cryfach na thonnau'r môr,
yw'r ARGLWYDD yn yr uchelder.
5Y mae dy dystiolaethau'n sicr iawn;
sancteiddrwydd sy'n gweddu i'th dŷ,
O ARGLWYDD, hyd byth.

Currently Selected:

Y Salmau 93: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in