1
Ioan 8:12
beibl.net 2015, 2024
Pan oedd Iesu’n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau’r byd. Bydd gan y rhai sy’n fy nilyn i olau i’w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
Compara
Explorar Ioan 8:12
2
Ioan 8:32
Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.”
Explorar Ioan 8:32
3
Ioan 8:31
Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi’i ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi.
Explorar Ioan 8:31
4
Ioan 8:36
Felly os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn.
Explorar Ioan 8:36
5
Ioan 8:7
Wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion erioed wedi pechu, taflwch chi’r garreg gyntaf ati hi.”
Explorar Ioan 8:7
6
Ioan 8:34
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy’n pechu wedi’i gaethiwo gan bechod.
Explorar Ioan 8:34
7
Ioan 8:10-11
Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?” “Nac oes syr, neb” meddai. “Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.”
Explorar Ioan 8:10-11
Inici
La Bíblia
Plans
Vídeos