Marc 10:46-52

Marc 10:46-52 DAW

Wrth i Iesu a'i ddisgyblion ymadael â Jericho, gwelson nhw ddyn dall o'r enw Bartimeus, mab Timeus, yn eistedd ar ymyl y ffordd yn cardota. Pan glywodd ef mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Roedd y bobl o'i amgylch yn ei geryddu gan ddweud wrtho dawelu; ond roedd e'n mynnu gweiddi'n uwch, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Safodd Iesu a dweud, “Galwch ef yma.” Dwedodd rhai o'r dyrfa wrth y dyn dall, “Cod ar dy draed, mae e'n galw arnat ti.” Taflodd y dyn dall ei fantell i ffwrdd a neidiodd i fyny. Ar ôl ei gyfarch, gofynnodd Iesu iddo, “Beth wyt ti am i mi wneud i ti?” Atebodd y dyn dall yn union, “Rabbwni, cael fy ngolwg yn ôl.” Dwedodd Iesu wrtho, “Dos ar dy ffordd, mae dy ffydd wedi dy wella di.” Yn y man, cafodd y dyn ei olwg yn ôl a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.

Llegeix Marc 10