Marc 13:32-37

Marc 13:32-37 DAW

“Ynglŷn â'r dydd hwnnw a'r awr, does neb ond y Tad yn gwybod pryd y digwydd. Dydy'r angylion na'r Mab ddim yn gwybod. Gwyliwch a byddwch effro oherwydd wyddoch chi ddim pryd y daw'r amser. Mae'n debyg i ddyn a aeth i ffwrdd, gan adael ei dŷ yng ngofal ei weision, a rhoi gwaith i bob un ohonyn nhw, a siarsio'r porthor i fod yn wyliadwrus. Gwyliwch, oherwydd wyddoch chi ddim pryd y daw meistr y tŷ yn ôl — gyda'r hwyr, neu gyda'r wawr — rhag ofn iddo ddod yn sydyn a chithau'n cysgu. Rydw i'n dweud wrth bawb fel rydw i'n dweud wrthych chi, ‘Gwyliwch.’ ”

Llegeix Marc 13