Marc 14:3-9

Marc 14:3-9 DAW

Pan oedd Iesu'n eistedd i fwyta yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus ym Methania, daeth gwraig i mewn â chanddi botel alabastr o beraroglau nard pur, costus. Agorodd y botel ac arllwysodd y cynnwys am ben Iesu. Roedd rhai yno yn ddig iawn, a gofynnon nhw pam fod angen gwastraffu'r peraroglau. Gallen nhw fod wedi gwerthu'r cynnwys am bris da a rhoi'r arian i'r tlodion. Roedden nhw'n gynddeiriog wrth y wraig. Dwedodd Iesu, “Gadewch lonydd iddi. Pam rydych chi'n ei phoeni a hithau wedi gwneud rhywbeth hyfryd i mi? Mae'r tlodion gyda chi bob amser, a gallwch chi eu helpu nhw pryd bynnag y mynnwch chi, ond fydda i ddim gyda chi bob amser. Gwnaeth y wraig yr hyn a allodd hi, ac eneiniodd fy nghorff ar gyfer y gladdedigaeth. Credwch fi, ble bynnag y bydd y Newyddion Da yn cael ei bregethu yn y byd, bydd sôn hefyd am yr hyn a wnaeth hi.”

Llegeix Marc 14