Marc 7

7
7. IESU A'R ARBENIGWYR
Traddodiad y Cyndeidiau (Marc 7:1-13)
1-13Roedd Phariseaid ac ysgrifenyddion wedi dod o Jerwsalem. Daethon nhw at Iesu am eu bod wedi sylwi bod rhai o'i ddisgyblion yn bwyta heb olchi eu dwylo yn null arbennig y Phariseaid. (Dydy'r Phariseaid, na'r Iddewon, ddim yn bwyta heb olchi eu dwylo hyd at yr arddwrn. Dyna draddodiad eu cyndeidiau. Fyddan nhw byth yn bwyta heb ymolchi ar ôl dod yn ôl o'r farchnad. Byddan nhw'n cadw llawer o draddodiadau eraill hefyd ynglŷn â golchi cwpanau, ystenau, llestri pres a gwelyau.) Gofynnodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion, “Pam nad ydy dy ddisgyblion di'n dilyn traddodiad ein cyndeidiau? Pam mae nhw'n bwyta gyda dwylo heb eu golchi?” Atebodd Iesu, “Dwedodd y proffwyd Eseia galon y gwir amdanoch chi ragrithwyr:
‘Mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu i gyda'u gwefusau,
ond mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
mae nhw'n fy addoli i yn ofer,
a dim ond rheolau dynion ydy eu dysgeidiaeth nhw.’
Rydych chi'n anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynion.” Ychwanegodd hefyd, “Rydych chi'n dda am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain. Dwedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Pwy bynnag sy'n melltithio ei dad neu'i fam, lladder ef’. Ond rydych chi'n dysgu, ‘Os bydd rhywun yn dweud wrth ei dad neu'i fam, “Corban — hynny ydy, rydw i wedi rhoi unrhyw ddyletswydd oedd arna i tuag atoch chi, i Dduw”,’ does dim rhaid iddo bellach anrhydeddu ei dad neu'i fam. Rydych chi, drwy eich traddodiad, wedi dirymu gorchymyn Duw.”
Pethau sy'n Llygru Person (Marc 7:14-23)
14-23Galwodd Iesu'r dyrfa ato unwaith yn rhagor a dwedodd, “Gwrandewch er mwyn i chi deall. Does dim sy'n mynd i mewn i berson o'r tu allan yn gallu ei lygru; y pethau sy'n dod allan ohono sy'n gwneud hyn.” Ar ôl iddo ymadael â'r dyrfa, a mynd i mewn i'r tŷ, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi ynglŷn â'r ddameg. Gofynnodd Iesu, “Ydych chi ddim yn deall chwaith? Does na ddim sy'n mynd i mewn i berson o'r tu allan yn gallu ei lygru; am fod y peth hwnnw yn mynd i'r stumog, nid i'r galon, ac yna, allan i'r garthffos.” Yn y modd hwn, cyhoeddodd Iesu fod yr holl fwydydd yn lân. Dwedodd, “Y pethau sy'n dod allan o berson, dyna sy'n ei lygru. O'r tu mewn i berson, o'r galon mae'r cynlluniau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, drygioni, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder a ffolineb yn tarddu, a'r rhain sy'n llygru.”
Ffydd y Wraig o Syroffenicia (Marc 7:24-30)
24-30Cyrhaeddodd Iesu gyffiniau Tyrus ac er iddo geisio cuddio mewn tŷ yno, ni lwyddodd. Yn y man, clywodd gwraig amdano, a daeth ato am help. Syrthiodd wrth ei draed. Groeges o Syroffenicia ydoedd hi ac roedd ysbryd aflan gan ei merch fach, a gofynnodd i Iesu ei gwella. Dwedodd ef wrthi, “Gad i'r plant gael digon yn gyntaf, dydy hi ddim yn deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.” Atebodd y wraig, “Syr, mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn bwyta briwsion y plant.” Dwedodd Iesu wrthi hi, “Am i ti ateb fel yna, dos adref, mae'r ysbryd aflan wedi gadael dy ferch.” Aeth y wraig adref a dyna lle roedd ei merch fach yn gorwedd ar y gwely yn holliach.
Iacháu Dyn Mud a Byddar (Marc 7:31-37)
31-37Ymadawodd Iesu â chyffiniau Tyrus a daeth drwy Sidon at Fôr Galilea a theithio ar hyd fro'r Decapolis. Roedd dyn mud a byddar yno, a daethon nhw ag ef at Iesu i'w wella. Aeth Iesu ag ef oddi wrth y dyrfa i le unig. Dododd ei fysedd yn ei glustiau, ac yna poerodd, a chyffyrddodd â thafod y dyn. Wedyn gan edrych tua'r nef, ochneidiodd a dwedodd wrtho, “Ephphatha”, hynny ydy, “Bydd yn agored.” Ar unwaith agorwyd clustiau'r dyn a rhyddhawyd ei dafod a dechreuodd siarad yn eglur. Gorchmynnodd Iesu iddyn nhw beidio â dweud dim wrth neb am y digwyddiad, ond po fwyaf roedd e'n eu rhybuddio nhw, mwya'n y byd roedden nhw'n cyhoeddi'r hanes. Roedd y bobl yn synnu'n fawr ac yn dweud, “Mae popeth mae e'n wneud yn dda; mae e'n gwneud hyd yn oed i'r byddar glywed a'r mud siarad.”

S'ha seleccionat:

Marc 7: DAW

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió