Luc 22

22
Brad Jwdas
1Roedd Gŵyl y Bara Croyw, sef y Pasg, yn agosáu. 2Ceisiai’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith ryw ddull i’w ddistrywio, am eu bod yn ofni’r bobl. 3A dyma Satan yn cymryd meddiant o Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg disgybl. 4Aeth a thrafod gyda’r prif offeiriaid a’r swyddogion y modd y bradychai yr Iesu iddyn nhw. 5Roedden nhw wrth eu bodd, a chytunwyd i dalu iddo. 6Bodlonodd yntau i hynny, a dechrau chwilio am gyfle i’w fradychu heb yn wybod i’r bobl.
Paratoi’r ‘Swper Olaf’
7Daeth dydd y Bara Croyw, pan aberthid oen y Pasg, 8ac anfonodd yr Iesu Pedr ac Ioan, gan ddweud, “Ewch a gwnewch y paratoadau i ni fwyta’r Pasg.”
9“Ble cawn ni eu gwneud?” gofynson nhwythau. 10Ac atebodd yntau, “Gwrandewch. Pan ddewch i’r ddinas, fe gwrddwch â dyn yn cario stên o ddŵr. Ewch i mewn ar ei ôl i’r tŷ. 11A dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae’r Athro’n gofyn, “Pa le y mae’r stafell y caf fwyta’r Pasg gyda’m disgyblion?”’
12“Cewch eich arwain ganddo i stafell fawr i fyny’r grisiau, wedi ei threfnu’n barod. Paratowch inni yno.”
13Fe aethon, a chael popeth fel y dwedodd wrthyn nhw, a pharatoi’r Pasg.
Y Cymundeb
14Yna, pan ddaeth yr amser, eisteddodd a’r apostolion gydag ef wrth y bwrdd, 15gan ddweud wrthyn nhw, “Roeddwn yn wir awyddus am gael bwyta’r Pasg hwn gyda chi, cyn i’m hamser ddod i ddioddef. 16Oblegid y gwir yw na chaf ei fwyta ef eto hyd oni welaf egluro ei holl ystyr yn nheyrnasiad Duw.”
17Ac wedi iddo gymryd y cwpan a rhoddi diolch, meddai wrthyn nhw, “Cymerwch hwn, a rhennwch rhyngoch. 18Oherwydd nid yfaf win eto hyd oni bydd teyrnasiad Duw wedi dod.”
19Wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, torrodd ef gan ei rannu rhyngddyn nhw, a dweud, “Fy nghorff i yw hwn, a roddir drosoch; gwnewch hyn mewn coffa amdanaf.”
20Yr un modd y rhoddodd y cwpan iddyn nhw wedi swper, gan ddweud, “Y cwpan hwn yw’r Cyfamod Newydd a selir â’m gwaed ac a dywelltir ar eich rhan. 21Ond mae llaw yr un a’m bradycha, fel fy llaw innau, ar y bwrdd hwn yn awr. 22Mynd y ffordd a drefnwyd iddo y mae Mab y Dyn, ond gwae’r dyn hwnnw a’i bradycha!”
23Dechreuson holi ei gilydd, pwy ohonyn nhw, tybed, a wnâi’r fath beth?
Yr angen am wyleidd-dra
24Cododd dadl rhyngddyn nhw ynglŷn â pha un a ystyrid y mwyaf. 25Ond meddai’r Iesu, “Yn y byd, y mae’r brenhinoedd yn arglwyddiaethu ar eu pobl, a’r rheolwyr hefyd yn cael eu galw’n ‘Gymwynaswyr’. 26Peidiwch chi â bod felly. Bydded y mwyaf yn eich plith megis yr ieuangaf, a’r arweinydd yn was. 27Pa un yw’r mwyaf, ai yr un a eistedd wrth y bwrdd, ai ynteu’r un sy’n gweini arno? Onid yr hwn sydd wrth y bwrdd? Ond yr wyf fi yn eich mysg fel un sy’n gweini. 28A chi yw’r rhai a arhosodd yn ffyddlon imi drwy bopeth. 29Ac mor wir â bod fy Nhad yn rhoi i mi fy Nheyrnas, felly y rhof i chithau yr hawl 30i fwyta ac yfed wrth fy mwrdd yn y Deyrnas honno. Cewch, fe gewch eistedd ar orseddau, yn barnu deuddeg llwyth Israel.”
Rhybudd i Simon
31“Simon, Simon, mae Satan wedi gofyn am eich cael i gyd i’ch nithio fel gwenith. 32Ond gweddïais i drosot ti, rhag i’th ffydd fethu. A chyn gynted ag y troi di yn dy ôl ataf, cadarnha dy frodyr.”
33“Meistr,” meddai ef, “gyda thi parod wyf i fynd i garchar, a hyd yn oed i farw.”
34Dywedodd yntau, “Cred fi, Pedr. Cyn i’r ceiliog ganu heddiw, byddi deirgwaith wedi gwrthod arddel dy fod yn f’adnabod.”
Y perygl agos
35Yna holodd nhw, “Pan anfonais chi allan heb na phwrs na chod nac esgidiau, a fuoch yn brin o rywbeth?”
Dywedson nhwythau, “Na, dim byd.”
36“Ond yn awr,” meddai, “yr hwn sydd ganddo bwrs, cymered ef, a’r un modd yr hwn sydd â chod. A’r sawl nad oes ganddo gleddyf, gwerthed ei got a phrynu un. 37Oblegid yr wyf yn eich sicrhau fod rhaid gwireddu’r geiriau hyn ynof fi, ‘Ac fe’i cyfrifid fel un o’r troseddwyr.’ Mae pob cyfeiriad ataf fi yn cael ei wireddu.”
38“Mae dau gleddyf yma, Arglwydd,” medden nhw.
“Dyna ddigon,” atebodd yntau.
Angerdd Gethsemane
39Wedi iddo fynd allan, aeth yn ôl ei arfer, i fyny i fynydd yr Olewydd, a’r disgyblion yn ei ddilyn. 40A phan gyrhaeddodd y man arferol, rhybuddiodd nhw, “Gweddïwch na fydd raid ichi wynebu’r prawf.”
41Symudodd oddi wrthyn nhw, tuag ergyd carreg, a mynd ar ei liniau a gweddïo, 42gan ddweud, “O Dad, os wyt yn fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ac eto, gad iddi fod fel yr wyt ti’n dymuno, nid fel yr wyf fi’n dymuno.”
45Pan ddaeth yn ôl at ei ddisgyblion, wedi gweddïo, cafodd nhw yn cysgu gan faint eu tristwch. 46A dywedodd wrthyn nhw, “Pam yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddïwch na fydd raid i chi wynebu’r prawf.”
Jwdas yn gwrthod ei arddel
47Ac fel roedd yn siarad, cyrhaeddodd tyrfa o bobl, a Jwdas, un o’r deuddeg, yn eu harwain, ac fe nesaodd at yr Iesu i’w gusanu.
48“Jwdas,” meddai’r Iesu, “ai â chusan rwyt ti’n bradychu Mab y Dyn”?
49A phan ddeallodd ei ddisgyblion beth oedd ar ddigwydd, dyna ofyn iddo, “A gawn ni daro â’r cleddyf, Arglwydd?”
50A thrawodd un ohonyn nhw was y Prif Offeiriad, gan dorri i ffwrdd ei glust dde.
51“Dyna ddigon,” meddai’r Iesu, gan gyffwrdd â’r glust, a’i iacháu.
52Yna dywedodd yr Iesu wrth y prif offeiriaid, swyddogion y Deml, a’r henuriaid, “Ydych chi wedi dod allan â chleddyfau a phastynau fel pe bawn i’n lleidr pen ffordd? 53Pan oeddwn gyda chi beunydd yn y Deml, ni chododd neb fys i’m herbyn. Ond dyma’ch awr chi — gallu’r tywyllwch.”
Dal yr Iesu. Pedr yn ei wadu
54Yna fe’i daliwyd, a’i arwain i ffwrdd i dŷ’r Prif Offeiriad, a Phedr yn canlyn o bell. 55Ac wedi i rywrai gynnau tân ar ganol iard y llys, ac eistedd gyda’i gilydd o’i gylch, eisteddodd Pedr yn eu plith. 56Gwelodd llances ef yno yng ngolau’r tân, ac meddai, wedi craffu arno, “Roedd hwn hefyd gydag ef.”
57Ond gwadu a wnaeth gan ddweud, “Ni wn i ddim pwy yw ef, ferch.”
58Ar ôl ychydig meddai un arall o’r dynion, “Rwyt ti hefyd yn un ohonyn nhw.”
“Ddyn! Dydw i ddim,” meddai Pedr.
59Aeth awr heibio, a dechreuodd rhywun arall daeru, a dweud, “Mae’n rhaid bod hwn gydag ef, oherwydd Galilead yw.”
Ond meddai Pedr, 60“Wn i ddim am beth rwyt ti’n siarad.”
A chyn iddo orffen dweud, canodd y ceiliog. 61Trodd y Meistr ei ben ac edrych i fyw llygad Pedr, a chofiodd yntau’r geiriau roedd y Meistr wedi eu llefaru wrtho. ‘Cyn i’r ceiliog ganu, byddi wedi fy ngwadu deirgwaith.’ 62Ac fe aeth allan ac wylo’n chwerw dost.
63Gwatwarai’r gwŷr a ofalai am yr Iesu ef, gan roddi mwgwd am ei lygaid, 64a’i daro, a dweud, “Pam na ddwedi di, broffwyd, pwy a’th drawodd?”
65A dyma ddweud llawer peth cableddus arall yn ei erbyn.
Croeshoelio’r Iesu
66Drannoeth, daeth henuriaid y bobl, a’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith at ei gilydd, a’i ddwyn i’w Cyngor. 67Yna medden nhw, “Os ti yw’r Meseia, dywed wrthym.”
Atebodd yntau, “Os dywedaf, ni chredwch. 68Ac os holaf chithau, nid atebwch. 69Ond o’r awr hon, bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw.”
70Medden nhw i gyd, “Mab Duw wyt ti, felly?”
“Chi sy’n dweud mai fi yw,” atebodd yntau.
71Yna dywedson nhwythau, “Pa angen sydd am dystion eraill, a ninnau newydd glywed y peth o’i enau ei hun?”

S'ha seleccionat:

Luc 22: FfN

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió