S. Luc 22

22
1A nesaodd gwyl y bara croew, yr hon a elwir y Pasg, 2a cheisiai yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd y difethent Ef, canys ofnent y bobl.
3Ac aeth Satan i mewn i Iwdas yr hwn a elwir Ishcariot, ac ef o rifedi’r deuddeg. 4Ac wedi myned ymaith, ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r capteniaid pa fodd y traddodai Ef iddynt. 5A llawen oedd ganddynt, a chyttunasant ar roddi iddo arian; 6a chydsyniodd efe, a cheisiai gyfleusdra i’w draddodi Ef iddynt yn absen y dyrfa.
7A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasg; 8a danfonodd Efe Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch a pharotowch i ni y Pasg fel y bwyttaom. 9A hwy a ddywedasant Wrtho, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom? 10Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Wele, wedi myned o honoch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ysten o ddwfr; canlynwch ef i’r tŷ i’r hwn yr aiff i mewn; 11a dywedwch wrth ŵr y tŷ, Dywedyd wrthyt y mae’r Athraw, Pa le y mae’r westfa, lle y bwyttawyf y Pasg ynghyda’m disgyblion? 12ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr wedi ei thanu; yno parottowch. 13Ac wedi myned ymaith cawsant fel y dywedasai wrthynt, a pharottoisant y Pasg.
14A phan ddaeth yr awr, lled-orweddodd, ac yr apostolion gydag Ef. 15A dywedodd wrthynt, Mawr-chwennychais fwytta’r Pasg hwn gyda chwi cyn i Mi ddioddef, 16canys dywedaf wrthych na fwyttaf mo hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. 17Ac wedi cymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, dywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith, 18canys dywedaf wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden nes i deyrnas Dduw ddyfod. 19Ac wedi cymmeryd bara a rhoddi diolch, torrodd a rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw Fy nghorph yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei roddi;
Hyn gwnewch er cof am Danaf;
20ac y cwppan yr un ffunud, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw’r cyfammod newydd yn Fy ngwaed, yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei dywallt allan. 21Eithr wele, llaw yr hwn sydd yn Fy nhraddodi, gyda Mi y mae ar y bwrdd; 22canys Mab y Dyn yn wir, yn ol yr hyn a benderfynwyd y mae yn myned; eithr gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Efe yn cael Ei draddodi. 23A hwy a ddechreuasant ymholi â’u gilydd, Pwy ysgatfydd o honynt oedd yr hwn ar fedr gwneud hyn.
24A bu ymryson yn eu plith, Pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Brenhinoedd y cenhedloedd a arglwyddiaethant arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, cymmwynaswyr y’u gelwir. 26Ond chwychwi, nid felly y byddwch; eithr y mwyaf yn eich plith, bydded fel yr ieuangaf; a’r pennaf, fel yr hwn sy’n gweini. 27Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sy’n lled-orwedd wrth y bwrdd, neu’r hwn sy’n gweini? Onid yr hwn yn ei led-orwedd? Ond Myfi, yn eich mysg yr wyf fel yr hwn sy’n gweini. 28A chwychwi yw y rhai a arhoswch gyda Mi yn Fy mhrofedigaethau; 29ac Myfi wyf yn pennodi i chwi, fel y pennododd Fy Nhad i Mi, 30deyrnas, fel y bwyttaoch ac yr yfoch wrth Fy mwrdd yn Fy nheyrnas; ac eisteddwch ar orsedd-feinciau yn barnu deuddeg llwyth Israel. 31Shimon, Shimon, wele, Satan a’ch gofynodd, er mwyn eich nithio fel gwenith; 32ond Myfi a ddeisyfiais drosot na ddiffygiai dy ffydd; a thydi, wedi dy droi ysgatfydd, cadarnha dy frodyr. 33Ac efe a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, ynghyda Thi, parod wyf i fyned i garchar, ac i angau hefyd. 34Ac Efe a ddywedodd, Dywedaf wrthyt, Petr, ni chân heddyw geiliog nes tair gwaith wadu o honot nad adweini Fi.
35A dywedodd wrthynt, Pan ddanfonais chwi heb bwrs a chod ac esgidiau, a oedd rhyw beth yn ol i chwi? A hwy a ddywedasant, Nac oedd ddim. 36Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yn awr, yr hwn sydd a chanddo bwrs, cymmered; yr un ffunud hefyd, god; a’r hwn nad oes ganddo, gwerthed ei gochl, a phryned gleddyf; 37canys dywedaf wrthych, Y peth hwn a ysgrifenwyd, y mae rhaid ei gyflawni Ynof, sef,
“A chyda throseddwyr y cyfrifwyd,”
canys yr hyn a ’sgrifenwyd am Danaf sydd ag iddo ddiben. 38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma; ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39Ac wedi myned allan, yr aeth, yn ol Ei arfer, i fynydd yr Olewydd; ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd y disgyblion. 40A phan yr oedd yn y fan, dywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. 41Ac Efe a dynwyd oddiwrthynt tuag ergyd carreg, ac wedi dodi Ei liniau ar lawr, 42gweddïodd, gan ddywedyd, O Dad, os mynni, dwg heibio y cwppan hwn oddi Wrthyf; er hyny, nid Fy ewyllys I, eithr yr eiddot Ti, a wneler. 43Ac ymddangosodd Iddo angel o’r nef, yn Ei nerthu Ef. 44A chan fod mewn ing, yn ddyfalach y gweddïodd; ac aeth Ei chwys fel defnynau mawrion o waed, yn disgyn ar y ddaear. 45Ac wedi codi o’i weddi, ac wedi myned at y disgyblion, cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch, 46a dywedodd wrthynt, Paham y cysgwch? Codwch a gweddïwch nad eloch i brofedigaeth.
Ac Efe etto yn llefaru, wele dyrfa, ac yr hwn a elwir Iwdas, 47un o’r deuddeg, a ddaeth Atto, a nesaodd at yr Iesu i’w gusanu Ef. 48A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Iwdas, ai â chusan Mab y Dyn a draddodi? A chan weled o’r rhai o’i amgylch yr hyn oedd ar ddigwydd, 49dywedasant, Arglwydd, a darawn ni â chleddyf? 50A tharawodd rhyw un o honynt was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ddehau ef. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, 51Gadewch hyd yn hyn: ac wedi cyffwrdd â’r glust, iachaodd ef. A dywedodd yr Iesu wrth y rhai oedd yno yn Ei erbyn, 52yn archoffeiriaid a chapteniaid y deml ac henuriaid, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn. 53Pan beunydd yr oeddwn gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylaw i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi ac awdurdod y tywyllwch.
54Ac wedi Ei ddal Ef, dygasant ac aethant ag Ef i dŷ yr archoffeiriad; a Petr a ganlynai o hirbell. 55Ac wedi cynneu tân ynghanol y llys a chyd-eistedd o honynt, eisteddodd Petr yn eu canol. 56A phan welodd rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, dywedodd, A hwn hefyd, gydag Ef yr oedd. 57Ac efe a wadodd, gan dywedyd, Nid adwaen i Ef, O wraig. 58Ac ar ol ychydig, un arall, gan ei weled ef, a ddywedodd, A thydi, o honynt yr wyt. 59A Petr a ddywedodd, O ddyn, nid wyf. Ac wedi yspaid o oddeutu awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, hwn hefyd oedd gydag Ef, canys Galilead hefyd yw. 60A dywedodd Petr, Y dyn, nis gwn pa beth a ddywedi. Ac allan o law, tra etto y llefarai efe, canodd ceiliog! 61Ac wedi troi, yr Arglwydd a edrychodd ar Petr; a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu fel y dywedodd wrtho, “Cyn i geiliog ganu heddyw, gwedi Fi dair gwaith;” 62ac wedi myned i’r tu allan, gwylodd yn chwerw.
63A’r dynion oedd yn Ei ddal a’i gwatwarent, gan Ei darawo; 64ac wedi rhoi gorchudd am Dano, gofynent Iddo, gan ddywedyd, Prophwyda: Pwy yw’r hwn a’th darawodd? 65A phethau eraill lawer, dan gablu, a ddywedasant yn Ei erbyn.
66A phan aeth hi yn ddydd, ymgynhullodd henaduriaeth y bobl, yn gystal archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant Ef ymaith at eu Cynghor, 67gan ddywedyd, Os Tydi wyt y Crist, dywaid wrthym. A dywedodd wrthynt, Os wrthych y dywedaf, 68ni chredwch ddim; ac os gofynaf, nid attebwch ddim. 69Ond ar ol hyn bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. 70A dywedasant oll, Tydi, gan hyny, wyt Mab Duw? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi a ddywedwch mai Myfi ydwyf. 71A hwy a ddywedasant, Pa raid sydd genym mwyach wrth dystiolaeth, canys ni ein hunain a glywsom o’i enau Ef?

S'ha seleccionat:

S. Luc 22: CTB

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió