Luwc 17:11-19

Luwc 17:11-19 CJW

A bu, ac efe yn ymdaith i Gaersalem, fyned o hono drwy gyffiniau Samaria a Galilea; a phan oedd efe àr fyned i fewn i ryw bentref, cyfarfu ag ef ddeg o wahangleifion, y rhai á safasant o hirbell, ac á lefasant, Iesu, Feistr, tosturia wrthym. Pan welodd efe hwynt, efe á ddywedodd, wrthynt, Ewch, dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A fel yr oeddynt yn myned, hwy á lanâwyd. Ac un o honynt, pan welai ddarfod ei iachâu, á ddychwelodd, gàn ogoneddu Duw yn uchel. Yna gwedi syrthio àr ei wyneb wrth draed Iesu, efe á ddiolchodd iddo. A Samariad oedd hwn. Iesu á ddywedodd, Oni lanawyd deg? Pa le, gàn hyny, y mae y naw ereill? A ddychwelodd neb y gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn? Ac efe á ddywedodd wrtho, Cyfod, dos ymaith; dy ffydd á’th iachâodd.

Llegeix Luwc 17