Luwc 17

17
DOSBARTH XI.
Hyfforddiadau a Rhybyddion.
1-2Yna y dywedodd Iesu wrth ei ddysgyblion, Annichon yw cau allan faglau yn hollol; ond gwae y sawl à faglo! Gwell fyddai iddo pe rhwymid maen uchaf melin wrth ei wddf, a’i daflu i’r môr, nag iddo faglu un o’r rhai bychain hyn.
3-4Edrychwch atoch eich hunain; os trosedda dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os diwygia efe, maddau iddo; ac os trosedda yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi yn ol gàn ddywedyd, Y mae yn edifar genyf, maddau iddo.
5-6Yna yr Apostolion á ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni. Yntau á atebodd, Pe byddai gènych ffydd gymaint a gronyn o had cethw, gellych ddywedyd wrth y fasarnen hon, Ymddadwreiddia a phlàner di yn y môr, a hi á ufyddâai i chwi.
7-10Pwy o honoch chwi, sy ganddo was yn aredig neu yn porthi anifeiliaid, á ddywedai wrtho gwedi iddo ddychwelyd o’r maes, Dyred yn ddiannod, a gosod dy hun wrth y bwrdd; a nid yn hytrach, Arlwya fy nghwynos; ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed; a gwedi hyny y bwytai ac yr yfi dithau? A yw efe dàn rwymedigaeth i’r gwas hwnw am ufyddâu iddei orchymyn? Nid wyf yn tybied. Felly chwithau, gwedi i chwi wneuthur y cwbl à orchymynwyd i chwi, dywedwch, Nyni, dy weision, ni wnaethom i ti un gymwynas; oblegid yr hyn oedd rwymedig arnom, hyny yn unig á wnaethom.
11-19A bu, ac efe yn ymdaith i Gaersalem, fyned o hono drwy gyffiniau Samaria a Galilea; a phan oedd efe àr fyned i fewn i ryw bentref, cyfarfu ag ef ddeg o wahangleifion, y rhai á safasant o hirbell, ac á lefasant, Iesu, Feistr, tosturia wrthym. Pan welodd efe hwynt, efe á ddywedodd, wrthynt, Ewch, dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A fel yr oeddynt yn myned, hwy á lanâwyd. Ac un o honynt, pan welai ddarfod ei iachâu, á ddychwelodd, gàn ogoneddu Duw yn uchel. Yna gwedi syrthio àr ei wyneb wrth draed Iesu, efe á ddiolchodd iddo. A Samariad oedd hwn. Iesu á ddywedodd, Oni lanawyd deg? Pa le, gàn hyny, y mae y naw ereill? A ddychwelodd neb y gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn? Ac efe á ddywedodd wrtho, Cyfod, dos ymaith; dy ffydd á’th iachâodd.
20-21Pan holid ef gàn y Phariseaid pa bryd y dechreuai Teyrnasiad Duw, efe á atebodd, Nid yw Teyrnasiad Duw yn dyfod i fewn gyda rhwysgwedd; a ni ddywed pobl, Wele, yma! neu Wele, acw! canys wele, Teyrnasiad Duw o’ch mewn chwi y mae.
22-37Yna y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Yr amser á ddaw pan chwennychoch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, a nis gwelwch. Ond pan ddywedant wrthych, Wele, yma! neu Wele, acw! nac ewch allan iddeu canlyn hwynt. Canys fel y mae y fellten yn melltenu mewn amrantiad o’r naill eithaf i’r wybr i’r llall, felly y bydd ymddangosiad Mab y Dyn yn ei ddydd ef. Ond yn gyntaf, y mae yn raid iddo ddyoddef llawer, a chael ei wrthod gàn y genedlaeth hon. A megys y bu yn nyddiau Nöa, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn. Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gŵra, hyd y dydd yr aeth Nöa i fewn i’r arch pryd y daeth y dylif, ac á’u dyfethodd hwynt oll. Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot, yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plànu, yn adeiladu; ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodoma, y gwlawiodd tân a llosgfaen o’r nef, yr hwn á’u dyfethodd hwynt oll. Felly hefyd y bydd yn y dydd yr ymddengys Mab y Dyn. Yn y dydd hwnw, y neb à fyddo àr ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgyned iddeu cymeryd hwynt. Y neb à fyddo yn y maes, na ddychweled adref. Cofiwch wraig Lot. Pwybynag á geisio gadw ei einioes, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei einioes, á’i ceidw hi. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos hòno y bydd dau yn yr un gwely; y naill á gymerir, a’r llall á adewir. Dwy á fyddant yn malu yn yr un lle; y naill á gymerir, a’r llall á adewir. Yna hwy á ofynasant iddo, Pa le, Feistr? Yntau á atebodd, Llebynag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.

S'ha seleccionat:

Luwc 17: CJW

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió