Luwc 18:35-43

Luwc 18:35-43 CJW

Pan ddaeth efe yn agos i Iericho, dyn dall, yr hwn á eisteddai yn ymyl y ffordd yn cardota, gwedi clywed y dyrfa yn myned heibio, á ofynodd pa beth oedd yn bod. Pan ddywedwyd wrtho mai Iesu y Nasarethiad oedd yn myned heibio, efe á lefodd yn y fàn, gàn ddywedyd, Iesu, mab Dafydd, tosturia wrthyf. Y rhai oedd yn myned o’r blaen á’i ceryddasant ef i dewi; eithr efe á lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, tosturia wrthyf. Iesu á safodd, ac á orchymynodd iddynt ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe á ofynodd iddo, gàn ddywedyd, Pa beth á fỳni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau á atebodd, Feistr, rhoddi i mi fy ngolwg. Ac Iesu á ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg; dy ffydd á’th iachâodd. Yn ebrwydd efe á gafodd ei olwg, ac á’i canlynodd ef, gàn ogoneddu Duw; a’r holl bobl pàn welsant, á roisant foliant i Dduw.

Llegeix Luwc 18