Luwc 20

20
1-8Un o’r dyddiau hyny, fel yr oedd efe yn dysgu y bobl yn y deml, ac yn cyhoeddi y Newydd da, yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda ’r henuriaid, á ddaethant arno ef, gàn ddywedyd, Dywed i ni, drwy ba awdurdod yr ydwyt yn gwneuthur y pethau hyn, neu pwy yw yr hwn à’th alluogodd? Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Y mae genyf finnau hefyd holiad iddei gynnyg i chwi, Dywedwch i mi gàn hyny, Y cènadwriaeth oedd gàn Ioan i drochi, ai o’r nef yr oedd ai oddwrth ddynion? Eithr hwy á ymresymasant fel hyn yn eu plith eu hunain, Os dywedwn, O’r nef, efe á wrthetyb, Paham ynte na chredasech ef? Ac os dywedwn, Oddwrth ddynion, yr holl bobl á’n llabyddiant ni; canys y maent yn cwblgredu mai Proffwyd oedd Ioan. Am hyny, hwy á atebasant, Nas gallent ddywedyd o ba le. Iesu á atebodd, Nid wyf finnau chwaith yn dywedyd i chwi, drwy da awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9-16Yna efe á ddywedodd wrth y bobl y ddameg hon, Rhyw ŵr á blànodd winllan, ac á’i gosododd i lafurwyr, a gwedi ymdaith, á arosodd yn hir àr led. Wedi dyfod y tymmor, efe á ddanfonodd was at y llafurwyr, i dderbyn o gynnyrch y winllan; eithr hwy á’i curasant ef, ac á’i hanfonasant ymaith yn waglaw. Gwedi hyny, efe á ddanfonodd was arall, yr hwn, wedi iddynt ei guro a’i anmharchu, hefyd á ddanfonasant ymaith yn waglaw. Yntau, gwedi hyny, á ddanfonodd drydydd atynt. Hwnw yr un ffunud á glwyfasant ac á ỳrasant ymaith. Yna perchenog y winllan á ddywedodd, Pa beth á wnaf? Mi á ddanfonaf fy anwyl fab; diau pan welant ef, y parchant ef. Eithr y llafurwyr pan welsant ef, á ymresymasant fel hyn â’u gilydd, Hwn yw yr etifedd; deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni. A gwedi ei hyrddiaw ef allan o’r winllan, hwy á’i lladdasant ef. Pa beth, gàn hyny, á wna perchenog y winllan iddynt? Efe á ddaw ac á ddinystria y llafurwyr hyny, ac á rydd y winllan i ereill. A rhai o’i wrandaẅwyr á ddywedasant, Na ato Duw.
17-19Iesu, gwedi edrych arnynt, á ddywedodd, Pa beth ynte á feddylia yr ymadrodd hwnw o’r ysgrythyr, “Maen à wrthododd yr adeiladwyr á wnaethwyd yn ben y gongl. Pwybynag á syrthio àr y maen hwnw, á falurir; ond àr bwybynag y syrthio, efe á’i chwilfriwia ef.” Y pryd hwnw yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gàn wybod mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg hon, á fỳnasent osod dwylaw arno, ond yr oedd arnynt ofn y bobl.
20-26A hwy á’i gwyliasent ef, ac á osodasant ysbiwyr arno, gàn eu haddysgu hwynt i gymeryd arnynt fod yn ddynion cydwybodol, fel y dalient ef yn ei eiriau, ac y traddodent ef yn meddiant ac awdurdod y rhaglaw. Y rhai hyn á’i cyfarchasant ef gyda ’r holiad hwn, Rabbi, ni á wyddom dy fod yn llefaru ac yn dysgu yn uniawn, ac heb dderbyn wyneb, yn dysgu ffordd Duw yn ffyddlawn. A ydyw yn gyfreithlawn i ni dalu trethi i Gaisar, ai nid yw? Yntau yn canfod eu cyfrwysdra hwy, á atebodd, Paham y mỳnech fy rhwydo i? Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? Hwythau á atebasant, Yr eiddo Caisar. Yntau á adatebodd, Rhoddwch chwithau, gàn hyny, i Gaisar yr hyn sydd eiddo Caisar, ac i Dduw yr hyn sydd eiddo Duw. Felly nis gallasent ei ddal ef yn ei ymadroddion gèr bron y bobl; am hyny, gán ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy á dawsant â son.
27-40Gwedi hyny, rhai o’r Saduwceaid, y rhai á wadant gyflwr dyfodol, á ddaethant ato gyda ’r holiad hwn: Rabbi, Moses, yn ei ysgrifeniadau, á orchymynodd, fod i’r neb y byddo marw ei frawd yn ddiblant, a’i wraig yn fyw, briodi y weddw, a chodi eppil iddei frawd. Yn awr, yr oedd saith o frodyr, y cyntaf o ba rai gwedi cymeryd gwraig, á fu farw yn ddiblant; yr ail á briododd y weddw, ac á fu farw hefyd yn ddiblant; y trydydd á’i priododd hi, megys hefyd y gwnaeth y lleill oll; a’r saith á fuont feirw oll, heb adael plant. Yn ddiweddaf oll, bu farw y wraig hefyd. I ba un o honynt, gán hyny, y bydd hi yn wraig yn yr adgyfodiad; canys hi á briodwyd â hwynt ill saith? Iesu gán ateb, á ddywedodd wrthynt, Y mae pobl y byd hwn yn gwreica ac yn gwra; ond yn mhlith y sawl à gant yr anrhydedd o fod yn gyfranog yn yr adgyfodiad, a’r byd arall, ni bydd na gwreica na gwra; oblegid nis gallant farw mwyach; herwydd eu bod, fel yr angylion, yn blant Duw, gàn eu bod yn blant yr adgyfodiad. Ond y cyfodir y meirw, Moses ei hun á gyrbwyllodd, drwy alw yr Arglwydd yr hwn á ymddangosodd yn y berth, yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Iacob. A nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw; canys y maent oll yn fyw iddo ef. Yna rhai o’r ysgrifenyddion á ddywedasant wrtho, Rabbi, ti á ddywedaist yn dda. Gwedi hyny ni feiddiasant ofyn iddo chwaneg o holiadau.
41-44Ac efe á ddywedodd wrthynt, Paham yr haerir bod rhaid i’r Messia fod yn fab i Ddafydd? Er hyny y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, “Yr Arglwydd á ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd àr fy neheulaw hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i ti.” Gan bod Dafydd fel hyn yn ei alw ef ei Arglwydd, pa fodd y gall efe fod yn fab Dafydd?
45-47Yna, yn nghlywedigaeth yr holl bobl, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai á garant rodio mewn dillad llaesion, ac á hoffant gyfarchiadau mewn lleoedd cyhoeddus, a’r prif eisteddlëoedd yn y cynnullfëydd, a’r lleoedd uchaf mewn gwleddau; y rhai sydd yn difa teuluoedd gwragedd gweddwon, ac yn gwneuthur gweddiau hirion yn rhithesgus. Y rhai hyn á ddyoddefant y gosb lèmaf.

S'ha seleccionat:

Luwc 20: CJW

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió