Luwc 21:29-36

Luwc 21:29-36 CJW

Efe á osododd iddynt y gymhariaeth hon. Edrychwch àr y ffigysbren, a’r preniau ereill. Pan weloch hwynt yn deiliaw, gwyddoch o honoch eich hunain bod yr haf yn agos. Gwybyddwch, yr un modd, pan weloch y dygwyddion hyn, bod Teyrnasiad Duw yn agos. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi nid â y genedlaeth hon heibio, hyd eni ddel y cwbl i ben. Nef a daiar á ballant; ond fy ngeiriau i ni phallant ddim. Edrychwch, gàn hyny, atoch eich hunain, rhag y byddo eich calonau gwedi eu gorlwytho â glythineb a meddwdod, a gofalon bydol, a dyfod y dydd hwnw arnoch yn ddiarwybod: canys fel rhwyd yr amgaua ef holl drigolion y ddaiar. Gwyliwch, gán hyny, gàn weddio, ár bob achlysur, àr gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag yr holl ddrygau hyn sydd yn agosâu, ac i sefyll gèr bron Mab y Dyn.

Llegeix Luwc 21