Luwc 23:44-49

Luwc 23:44-49 CJW

Ac yn nghylch y chwechfed awr, yr oedd tywyllwch dros yr holl dir, yr hwn á barâodd hyd y nawfed. Yr haul á dywyllwyd, a llen y deml á rwygwyd yn ei chanol. Ac Iesu á ddywedodd â llef uchel, O Dad, i’th ddwylaw di y gorchymynaf fy ysbryd; a gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á drengodd. Yna y canwriad, pan welai y peth à wnaethwyd, á roes ogoniant i Dduw, gàn ddywedyd, Yn wir, yr oedd hwn yn wr cyfiawn. A’r holl bobl oedd yn bresennol àr y golygawd hwn, ac á welsant yr hyn à gymerasai le, á ddychwelasant, gàn guro eu dwyfrònau. A’i holl gydnabod ef, a’r gwragedd à’i canlynasent ef o Alilea, gàn sefyll o hirbell, á welsant y pethau hyn.

Llegeix Luwc 23