Ioan 2
2
Iesu’n troi Dŵr yn Win
1Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno 2ac roedd Iesu a’i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i’r briodas hefyd. 3Pan oedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu’n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.”
4Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Beth ydy hynny i ni? Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”
5Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.”
6Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy’n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw’n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr.
7Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma â dŵr.” Felly dyma nhw’n eu llenwi i’r top.
8Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw’n gwneud hynny, 9a dyma llywydd y wledd yn blasu’r dŵr oedd wedi’i droi’n win. (Doedd ganddo fe ddim syniad o ble roedd wedi dod, ond roedd y gweision oedd wedi codi’r dŵr yn gwybod.) Yna galwodd y priodfab ato 10a dweud wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â’r gwin gorau allan gyntaf a’r gwin rhad yn nes ymlaen, ar ôl i’r gwesteion gael gormod i’w yfed. Pam wyt ti wedi cadw’r gorau i’r diwedd?”
11Y wyrth#2:11 Y wyrth: Groeg, “arwydd”. Ffordd Ioan o ddweud fod y gwyrthiau yn pwyntio at y ffaith mai Mab Duw oedd Iesu o Nasareth. hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu, fel arwydd o pwy oedd e. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma’i ddisgyblion yn credu ynddo.
12Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum#gw. Mathew 4:13 gyda’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau.
Iesu’n clirio’r Deml
(Mathew 21:12-13; Marc 11:15-17; Luc 19:45-46)
13Roedd yn amser Gŵyl y Pasg#gw. Exodus 12:1-27 (un o wyliau’r Iddewon), a dyma Iesu’n mynd i Jerwsalem. 14Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a cholomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian. 15Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a’u gyrru nhw i gyd allan o’r deml gyda’r defaid a’r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd. 16Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â’r rhain allan o ma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”
17Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.”#Salm 69:9
18Ond dyma’r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?”
19Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.”
20Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae’r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti’n mynd i’w hadeiladu mewn tri diwrnod?” 21(Ond y deml oedd Iesu’n sôn amdani oedd ei gorff. 22Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw’n credu’r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)
Iesu’n nabod y natur ddynol
23Tra oedd Iesu yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi’i weld e’n gwneud arwyddion gwyrthiol. 24Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd e’n deall pobl i’r dim. 25Doedd dim angen i neb esbonio iddo, am ei fod e’n gwybod yn iawn sut mae’r meddwl dynol yn gweithio.
S'ha seleccionat:
Ioan 2: bnet
Subratllat
Comparteix
Copia
Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió
© Cymdeithas y Beibl 2023