Ioan 2:1-12

Ioan 2:1-12 DAFIS

I trididd dwarnod we priodas in Cana ing Galilea, a we mam Iesu 'na. We Iesu a'i ddisgiblion wedi câl u gofyn i'r briodas. Pan fenodd i gwin gwedodd mam Iesu wrtho fe, 'Sdim gwin 'da nhwy ar ôl.’ Gwedo Iesu, 'Be sy mlân 'da ti, mam, in hanlo'n fusnes i? Seno'n amser i wedi dwâd 'to.’ Gwedodd i fam wrth i gweishon, 'Newch chi'n gowir fel mae e'n gweu 'tho chi?' Nawr we whech stên bridd fan 'ny sy'n câl u hiwso 'da'r Iddewon i ddala dýr i olchi ar gownt u crefydd, a ma bob stên in dala rhiw bwmtheg galwn, os na mwy. Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Llanwch bob stên 'da dýr.’ Llenwon nhwy bob un hyd i fil. Wedyn wedodd e wrthon nhwy, 'Tinwch beth mas o'r stên, a rhoiwch e i fishtir i wledd.’ A nethon nhwy jwst fel wedodd e. Tastodd mishtir i wledd i dýr, we wedi câl i droi in win erbyn 'ny, ond wedd e ddim in gwbod o ble wedd e wedi dwâd, ond we'r gweishon in gwbod in iawn. Galwodd ar i dyn we'n priodi a gweu 'tho, 'Fel arfer ma bob un sy'n trefnu gwledd in dwâd â'r gwin gore mas ginta, a wedyn i gwin gwâl pan ma pob un in feddw; ond wit ti wedi cadw'r gwin gore hys nawr.’ Nâth Iesu hyn in Cana in Galileia fel i cinta o'i seinz e bo Duw i'w weld ar i ddeiar; a fe gredodd i ddisiblion indo fe.

Llegeix Ioan 2