Ioan 3:1-21

Ioan 3:1-21 DAFIS

Dâth un o'r Ffariseied, Nicodemus we'i enw e, at Iesu pan wedd i'n dewill. Nawr wedd e'n Iddew pwysig iawn, in un o'r rhei we'n u harwen nhwy. A gwedodd e wrth Iesu, 'Rabbi, ÿn ni'n gwbod bo ti'n dwâd wrth Dduw fel un i'n disgu ni, achos galle neb neud i pethe wit ti'n neud os na byse Duw 'dag e.’ Atebo Iesu, 'Dwi'n gweud i gwir wrthot ti nawr, os nadi dyn in câl i eni o lan gall e ddim gweld Teyrnas Duw.’ Gwedo Nicodemus wrtho, 'Shwt gall dyn gâl i eni pan mae e'n hen? Gall e fynd nôl miwn i fola'i fam shwrne 'to, a câl i eni?' Gwedo Iesu, 'Dwi'n gweud i gwir wrthot ti nawr, os nadi dyn in câl i eni o ddýr a'r Isbryd, gall e ddim mynd miwn i Deyrnas Duw. Ma pob un sy'n câl u geni fel pobol in debig i bobol, ond ma pob un sy'n câl u geni o'r Isbryd in debig i'r isbryd. Peidwch câl sindod bo fi'n gweu'thoch chi, “Rhaid ichi gyd gâl ich geni shwrne 'to o lan.” Ma'r gwynt in hwthu ble mae e moyn, gallwch chi i gliwed e, ond senoch chi'n gwbod o ble mae e'n dwâd, na i ble mae e'n mynd. Fel 'na'n gowir mae i gyda'r rhei sy'n câl u geni o'r Isbryd.’ Atebo Nicodemus e, 'Shwt gall i pethe 'ma ddigwidd?' Gwedo Iesu, 'Wit ti'n un sy'n disgu pobol Isrel, on'd wit ti? Shwt wedyn wit ti ddim in gwbod i pethe 'ma? Dwi'n gweud i gwir wrthot ti nawr, ÿn ni'n sharad am bethe ÿn ni'n gwbod amdanyn nhwy, a dwi'n gweu'thoch chi am bethe dwi wedi'u gweld nhwy; ond wedyn weth sdim un o'chi in credu beth dwi'n gweud. Dwi wedi gweu 'thoch chi am bethe deiarol, a chi ddim wedi'n gredu i, shwt wedyn 'te newch chi'n gredu i pan weda i wrthoch chi am bethe nefol? Sneb wedi mynd lan i'r nefodd ond ir Un ddath lawr o'r nefodd, Crwt i Dyn. 'In gowir fel gododd Moses i neidir lan miwn lle diffeth, ma'n rhaid i Grwt i Dyn gal i godi lan, fel bo bob un sy'n credu in câl byw am byth indo fe. Achos carodd Duw bob sun shwt gwmint nes bo fe wedi rhoi i unig Grwt, fel bo pob un sy'n credu indo fe ddim in mawr, ond in câl byw am byth. Achos nâth Duw ddim hala'i Grwt miwn i'r byd i farnu'r byd, ond ar gownt safio'r byd trwyddo fe. Fydd neb sy'n credu indo fe in cal i farnu; ma'r rhei sy ddim yn credu wedi câl u barnu in barod, ochos bo nhw ddim wedi credu in unig Grwt Duw. Fel hyn ma barn in gweitho: ma gole wedi dwâd miwn i'r byd, ond we well 'da pobol aros miwn tewillwch na miwn gole, achos we'r pethe wen nhwy'n u neud in ddrigionus. Ma pob un sy'n neud drigoni yn ffeilu haru'r gole, so senon nhwy'n dwâd miwn i'r gole fel bo'r pethe man nhwy'n u neud in câl u gweld; ond ma'r rhei sy'n neud beth sy'n iawn in dwâd miwn i'r gole, fel bo'r pethe man nhwy'n u neud in câl u dangos fel pethe sy'n dwâd wrth Dduw.’

Llegeix Ioan 3