Iona 1
1
PENNOD I.
1Pan ddaeth gair Iehofa at Iona, fab Amittai, gan ddywedyd, 2“Cyfod, dos i Ninife,#1:2 Arwydda y gair, “trigfa Nin,” sef Ninus, yr un fel y tybir a Nimrod, Gen. 10:11. Safai ar làn ddeheuol afon Tigris, a mam ddinas yr Assyriaid oedd. y ddinas fawr,#1:2 Hynod fawr oedd fel y dywed haneswyr, ynghylch triugain milldir o amgylch. Yr oedd yn bedair ochrog, ond yn fwy mewn un ffordd na’r llall yn agos o’r hanner. Amgylchid hi â mur anferth o faint, ynghylch pedair llath ar ddeg ar hugain o uchder, ac mor llydan fel y gallai tri cherbyd redeg ochr yn ochr ar hyd-ddo; ac ynddi yr oedd pymtheg cant o dyrau, a’u huchder dros driugain llath. Cynnwysai yn ddiau lawer o erddi ac o feusydd. a gwaedda am dani, ddarfod eu drygioni ddyrchafu ger fy mron;” 3yna cyfododd Iona i ffoi i Tarsis oddi gerbron Iehofa, ac aeth i lawr i Iopa: pan gafodd long yn myned i Tarsis, a thalu ei llog, yna aeth i lawr iddi fel yr elai gyda hwynt i Tarsis oddi gerbron Iehofa.#1:3 Cyfrifid fod Iehofa megys yn anneddu yn ngwlad Canaan; ac ymadael o’r wlad oedd ymadael o ŵydd Iehofa.
4Ond Iehofa a yrodd wynt mawr ar y môr, fel y bu yn y môr derfysg mawr, a thybid fod y llong ar ddryllio. 5Yna ofnodd y morwyr,#1:5 Neu yn llythrennol halltwyr, gan y perthynent i’r môr ag sydd hallt. a gwaeddasant bob un ar ei Dduw, a bwriasant y llestri oeddent yn y llong i’r môr, er ei hysgafnhâu rhagddynt. Ond Iona aethai i lawr i ystlysau y llong, a gorweddasai, ac yr oedd yn trwm gysgu. 6Yna aeth yn agos ato y llywydd,#1:6 Yn llythyrenol, pennaeth y rhaff, neu, y rhaffiad, gan mai efe oedd yn trefnu pa fodd yr oedd yr hwyliau i gael eu gosod i fyny a’u tynu i lawr a dywedodd wrtho, “Beth ddaeth i ti dy fod yn swrthgysgu?#1:6 Rhyfeddai y gallai gysgu yn y fath derfysg, a gofynai iddo yr achos y cysgai mor swrth cyfod, galw ar dy Dduw; fe allai y llewyrcha#1:6 Hyn yw ystyr y gair yn Hebraeg; “ystyrio” yw ei ystyr yn Caldëaeg. dy Dduw arnom fel na’n coller.”
7Yna dywedasant un wrth y llall,#1:7 Yn llythyrenol, “pob un wrth ei gymydog.” “Deuwch a bwriwn goelbrennau, fel y gwybyddom am ba beth y daeth yr anffawd hon arnom.” Felly bwriasant goelbrenau, a syrthiodd y coelbren ar Iona. 8Yna dywedasant wrtho, —
“Mynega, atolwg, i ni, am ba beth y daeth i ni yr anffawd hon; beth yw dy alwedigaeth, ac o ba le y daethost? pwy yw dy wlad, ac o ba bobl yr ydwyt?”
9Yna dywedodd wrthynt, “Hebread ydwyf; a Iehofa, Duw y nefoedd, a ofnaf, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir.” 10Ac ofnodd y dynion âg ofn mawr; a dywedasant wrtho, “Pa fath beth yw hyn a wnaethost!”#1:10 Nid gofyniad, ond iaith syndod yw hon, o herwydd erchylldod y pechod a wnaethai. Barnent am y bai wrth ei ganlyniad. Mae’r geiriau canlynol yn dangos mai hyn yw yr ystyr. o herwydd gwyddai y dynion mai oddi ger bron Iehofa y ffoiasai efe, o herwydd mynegasai iddynt.
11Yna dywedasant wrtho, “Beth a wnawn i ti, fel y byddo y môr yn dawel i ni?” o herwydd cynhyrfu yr oedd y môr ac yn terfysgu. 12Yna dywedodd wrthynt, “Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr, a thawel fydd y môr i chwi; o herwydd gwybod yr wyf mai o’m hachos i y mae y terfysg mawr hwn arnoch.” 13Ond ymdrechodd y dynion i ddychwelyd i dir, ond nis gallent, o herwydd cynhyrfu yr oedd y môr ac yn terfysgu yn eu herbyn.
14Yna galwasant ar Iehofa, a dywedasant, “Attolwg, Iehofa, na wnaer, attolwg, ein dyfetha am einioes y dyn hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion; o herwydd ti, Iehofa, yn ol yr hyn a welaist yn dda, y gwnaethost.”#1:14 Sef, trwy beri i’r coelbren syrthio ar Iona. 15Felly’ cymerasant Iona, a bwriasant ef i’r môr, a safodd y môr oddiwrth ei gynhwrf. 16Ac ofnodd y dynion Iehofa âg ofn mawr, ac aberthasant aberth, ac addunedasant addunedau.
17A darparodd Iehofa bysgodyn mawr i lyncu Iona;#1:17 Darfu llawer ymboeni i wybod pa fath o bysgodyn oedd hwn; ond hollol ofer yw’r cyfryw ymchwilio. Pa un a ddarparodd Duw ef trwy ei greu, neu trwy ddwyn at y llong un a nofiai eisoes yn y mor, gwaith gwyrthiol oedd. a bu Iona yn mol y pysgodyn dri diwrnod a tair nos.
Právě zvoleno:
Iona 1: CJO
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat
Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.

: