1
2 Brenhinoedd 6:17
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.
Cymharu
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 6:17
2
2 Brenhinoedd 6:16
Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 6:16
3
2 Brenhinoedd 6:15
A phan gododd gweinidog gŵr DUW yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 6:15
4
2 Brenhinoedd 6:18
A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a’u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 6:18
5
2 Brenhinoedd 6:6
A gŵr DUW a ddywedodd, Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac efe a dorrodd bren, ac a’i taflodd yno; a’r haearn a nofiodd.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 6:6
6
2 Brenhinoedd 6:5
A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst, ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr. Ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, Och fi, fy meistr! canys benthyg oedd.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 6:5
7
2 Brenhinoedd 6:7
Ac efe a ddywedodd, Cymer i fyny i ti. Ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 6:7
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos