Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau y môr