1
Ioan 10:10
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 10:10
2
Ioan 10:11
Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
Archwiliwch Ioan 10:11
3
Ioan 10:27
Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i
Archwiliwch Ioan 10:27
4
Ioan 10:28
A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.
Archwiliwch Ioan 10:28
5
Ioan 10:9
Myfi yw’r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
Archwiliwch Ioan 10:9
6
Ioan 10:14
Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi.
Archwiliwch Ioan 10:14
7
Ioan 10:29-30
Fy Nhad i, yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i. Myfi a’r Tad un ydym.
Archwiliwch Ioan 10:29-30
8
Ioan 10:15
Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.
Archwiliwch Ioan 10:15
9
Ioan 10:18
Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
Archwiliwch Ioan 10:18
10
Ioan 10:7
Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.
Archwiliwch Ioan 10:7
11
Ioan 10:12
Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid.
Archwiliwch Ioan 10:12
12
Ioan 10:1
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw.
Archwiliwch Ioan 10:1
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos