1
1 Brenhinoedd 17:14
beibl.net 2015, 2024
Achos dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Ddaw’r blawd yn y potyn ddim i ben, a fydd yr olew yn y jar ddim yn darfod nes bydd yr ARGLWYDD wedi anfon glaw unwaith eto.”
Cymharu
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:14
2
1 Brenhinoedd 17:1
Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i’n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:1
3
1 Brenhinoedd 17:13
Ond dyma Elias yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dos i wneud hynny. Ond gwna fymryn o fara i mi gyntaf, a thyrd ag e allan yma. Cei baratoi rhywbeth i ti a dy fab wedyn.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:13
4
1 Brenhinoedd 17:12
Ond dyma hi’n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd i ti. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Rôn i wrthi’n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd olaf i mi a’m mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni’n llwgu.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:12
5
1 Brenhinoedd 17:9
“Cod, a dos i fyw i Sareffath yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy’n byw yno i roi bwyd i ti.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:9
6
1 Brenhinoedd 17:16
Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo drwy Elias.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:16
7
1 Brenhinoedd 17:15
Felly dyma hi’n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a’i theulu.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:15
8
1 Brenhinoedd 17:10
Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau’r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe’n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i’w yfed.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:10
9
1 Brenhinoedd 17:4
Cei ddŵr i’w yfed o’r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:4
10
1 Brenhinoedd 17:11
Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe’n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi ei fwyta hefyd?”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:11
11
1 Brenhinoedd 17:6
Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda’r nos, ac roedd yn yfed dŵr o’r nant.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:6
12
1 Brenhinoedd 17:7
Ond ar ôl peth amser dyma’r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:7
13
1 Brenhinoedd 17:24
A dyma’r wraig yn dweud wrth Elias, “Nawr dw i’n gwybod dy fod ti’n broffwyd go iawn, a bod yr ARGLWYDD wir yn siarad trwot ti.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:24
14
1 Brenhinoedd 17:5
Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i afon Iorddonen.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:5
15
1 Brenhinoedd 17:22
A dyma’r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Elias, a dechreuodd y bachgen anadlu eto. Roedd yn fyw!
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:22
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos