Dyma mae’r ARGLWYDD sy’n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:
“Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw,
sy’n dy ddysgu di er dy les,
ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.
O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!
Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,
a dy gyfiawnder fel tonnau’r môr.