1
1 Brenhinoedd 17:14
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Nid â'r celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych hyd y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi glaw ar wyneb y tir.’ ”
Cymharu
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:14
2
1 Brenhinoedd 17:1
Dywedodd Elias y Thesbiad o Thisbe yn Gilead wrth Ahab, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, ni bydd na gwlith na glaw y blynyddoedd hyn ond yn ôl fy ngair i.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:1
3
1 Brenhinoedd 17:13
Dywedodd Elias wrthi, “Paid ag ofni; dos a gwna fel y dywedaist, ond gwna ohono yn gyntaf deisen fach i mi, a thyrd â hi ataf, a pharatoi i ti dy hun a'th fab wedyn.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:13
4
1 Brenhinoedd 17:12
Ond meddai hi, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y stên; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:12
5
1 Brenhinoedd 17:9
“Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:9
6
1 Brenhinoedd 17:16
Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:16
7
1 Brenhinoedd 17:15
Gwnaeth hithau yn ôl gair Elias, a chafodd ef a hi a'i theulu fwyd am amser.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:15
8
1 Brenhinoedd 17:10
Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, “Estyn imi gwpanaid bach o ddŵr, imi gael yfed.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:10
9
1 Brenhinoedd 17:4
Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:4
10
1 Brenhinoedd 17:11
Pan aeth i'w 'mofyn, galwodd ar ei hôl, “A thyrd â thamaid o fara imi yn dy law.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:11
11
1 Brenhinoedd 17:6
Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:6
12
1 Brenhinoedd 17:7
Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:7
13
1 Brenhinoedd 17:24
Dywedodd y wraig wrth Elias, “Gwn yn awr dy fod yn ŵr Duw, a bod gair yr ARGLWYDD yn wir yn dy enau.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:24
14
1 Brenhinoedd 17:5
Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:5
15
1 Brenhinoedd 17:22
Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes y bachgen yn ôl iddo, ac adfywiodd.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 17:22
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos