1
2 Brenhinoedd 4:2
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Dywedodd Eliseus wrthi, “Beth a gaf ei wneud i ti? Dywed wrthyf beth sydd gennyt yn dy dŷ.” Atebodd hithau, “Nid oes gan dy lawforwyn ddim yn y tŷ ond ystenaid o olew.”
Cymharu
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:2
2
2 Brenhinoedd 4:1
Apeliodd gwraig un o'r proffwydi at Eliseus a dweud, “Bu farw dy was, fy ngŵr, ac yr oedd yn ddyn duwiol, fel y gwyddost; ac y mae'r echwynnwr wedi dod i gymryd fy nau blentyn yn gaethion iddo.”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:1
3
2 Brenhinoedd 4:3
Dywedodd Eliseus, “Dos a benthyg llestri gan dy holl gymdogion yn y stryd; paid â bod yn brin o lestri gweigion.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:3
4
2 Brenhinoedd 4:4
Yna dos i mewn a chau'r drws arnat ti a'th feibion, a thywallt yr olew i'r holl lestri hynny, a gosod pob un llawn o'r neilltu.”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:4
5
2 Brenhinoedd 4:6
Pan oedd wedi llenwi'r llestri, meddai hi wrth ei mab, “Tyrd â llestr arall imi,” a dywedodd yntau, “Nid oes yr un llestr arall.” Yna peidiodd yr olew.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:6
6
2 Brenhinoedd 4:7
Pan ddaeth a dweud yr hanes wrth ŵr Duw, dywedodd ef, “Dos, gwerth yr olew a thâl dy ddyled, a chei di a'th feibion fyw ar y gweddill.”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:7
7
2 Brenhinoedd 4:5
Aeth oddi wrtho a chau'r drws arni hi a'i dau fab; ac fel yr oedd hi'n tywallt, yr oeddent hwythau'n dod â'r llestri ati.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:5
8
2 Brenhinoedd 4:34
Yna aeth at y plentyn a gorwedd drosto, a rhoi ei geg ar ei geg, a'i lygaid ar ei lygaid, a'i ddwylo ar ei ddwylo, ac ymestyn drosto nes i gnawd y plentyn gynhesu.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 4:34
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos