1
Eseia 41:10
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 41:10
2
Eseia 41:13
Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni, yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’
Archwiliwch Eseia 41:13
3
Eseia 41:11
Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir pob un sy'n digio wrthyt; bydd pob un sy'n ymrafael â thi yn mynd yn ddim ac yn diflannu.
Archwiliwch Eseia 41:11
4
Eseia 41:9
Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti; rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’
Archwiliwch Eseia 41:9
5
Eseia 41:12
Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat, ond heb eu cael; bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim.
Archwiliwch Eseia 41:12
6
Eseia 41:14
“Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob, na thithau'r lleuen Israel; byddaf fi'n dy gynorthwyo,” medd yr ARGLWYDD, Sanct Israel, dy Waredydd.
Archwiliwch Eseia 41:14
7
Eseia 41:8
“Ti, Israel, yw fy ngwas; ti, Jacob, a ddewisais, had Abraham, f'anwylyd.
Archwiliwch Eseia 41:8
8
Eseia 41:18
Agoraf afonydd ar ben y moelydd, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd; gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.
Archwiliwch Eseia 41:18
9
Eseia 41:17
“Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddŵr, heb ei gael, a'u tafodau'n gras gan syched, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb; ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.
Archwiliwch Eseia 41:17
10
Eseia 41:4
Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn, a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau, a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”
Archwiliwch Eseia 41:4
11
Eseia 41:19-20
Plannaf yn yr anialwch gedrwydd, acasia, myrtwydd ac olewydd; gosodaf ynghyd yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd a phren bocs. Felly cânt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd.”
Archwiliwch Eseia 41:19-20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos