1
Eseia 42:6-7
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
“Myfi yw'r ARGLWYDD; gelwais di mewn cyfiawnder, a gafael yn dy law; lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl, yn oleuni cenhedloedd; i agor llygaid y deillion, i arwain caethion allan o'r carchar, a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 42:6-7
2
Eseia 42:8
Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw; ni roddaf fy ngogoniant i neb arall, na'm clod i ddelwau cerfiedig.
Archwiliwch Eseia 42:8
3
Eseia 42:1
“Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal, f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Rhoddais fy ysbryd ynddo, i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd.
Archwiliwch Eseia 42:1
4
Eseia 42:3-4
Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir. Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear; y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.”
Archwiliwch Eseia 42:3-4
5
Eseia 42:16
Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr, a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant; paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen, ac unionaf ffyrdd troellog. Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy.
Archwiliwch Eseia 42:16
6
Eseia 42:9
Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd, a mynegaf yn awr bethau newydd; cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.”
Archwiliwch Eseia 42:9
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos