1
Eseia 43:19
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 43:19
2
Eseia 43:2
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
Archwiliwch Eseia 43:2
3
Eseia 43:18
“Peidiwch â meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
Archwiliwch Eseia 43:18
4
Eseia 43:1
Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: “Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
Archwiliwch Eseia 43:1
5
Eseia 43:4
Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau'n dy garu, rhof eraill yn gyfnewid amdanat, a phobloedd am dy einioes.
Archwiliwch Eseia 43:4
6
Eseia 43:3
Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel, yw dy Waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
Archwiliwch Eseia 43:3
7
Eseia 43:5
Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi. Dygaf dy had o'r dwyrain, casglaf di o'r gorllewin
Archwiliwch Eseia 43:5
8
Eseia 43:25
“Myfi, myfi yw Duw, sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau.
Archwiliwch Eseia 43:25
9
Eseia 43:10
“Chwi yw fy nhystion,” medd yr ARGLWYDD, “fy ngwas, a etholais er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof, a deall mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy ôl.
Archwiliwch Eseia 43:10
10
Eseia 43:11
Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD; nid oes waredydd ond myfi.
Archwiliwch Eseia 43:11
11
Eseia 43:13
O'r dydd hwn, myfi yw Duw; ni all neb waredu o'm llaw. Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.”
Archwiliwch Eseia 43:13
12
Eseia 43:20-21
Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi dŵr yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig, sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod.
Archwiliwch Eseia 43:20-21
13
Eseia 43:6-7
gorchmynnaf i'r gogledd, ‘Rho’, ac i'r de, ‘Paid â dal yn ôl; tyrd â'm meibion o bell, a'm merched o eithafoedd byd— pob un sydd â'm henw arno, ac a greais i'm gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum.’ ”
Archwiliwch Eseia 43:6-7
14
Eseia 43:16-17
Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, a agorodd ffordd yn y môr a llwybr yn y dyfroedd enbyd; a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin
Archwiliwch Eseia 43:16-17
15
Eseia 43:15
Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin.”
Archwiliwch Eseia 43:15
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos