Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd,
ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud.
Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor,
a chyflawnaf fy holl fwriad.’
Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain,
a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell.
Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben,
fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.