1
Ioan 3:16
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 3:16
2
Ioan 3:17
Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef.
Archwiliwch Ioan 3:17
3
Ioan 3:3
Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd ni all weld teyrnas Dduw.”
Archwiliwch Ioan 3:3
4
Ioan 3:18
Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw.
Archwiliwch Ioan 3:18
5
Ioan 3:19
A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg.
Archwiliwch Ioan 3:19
6
Ioan 3:30
Y mae'n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau.”
Archwiliwch Ioan 3:30
7
Ioan 3:20
Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu.
Archwiliwch Ioan 3:20
8
Ioan 3:36
Pwy bynnag sy'n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy'n anufudd i'r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.
Archwiliwch Ioan 3:36
9
Ioan 3:14
Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae'n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu
Archwiliwch Ioan 3:14
10
Ioan 3:35
Y mae'r Tad yn caru'r Mab, ac y mae wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef.
Archwiliwch Ioan 3:35
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos