Genesis 14
14
1A bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd; 2Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar. 3Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw’r môr heli. 4Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant. 5A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth-carnaim, a’r Susiaid yn Ham, a’r Emiaid yn Safe-ciriathaim, 6A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch. 7Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson-tamar. 8Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt; 9A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump. 10A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoesant i’r mynydd. 11A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith. 12Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo. 13A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram. 14A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan. 15As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u trawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus. 16Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.
17A brenin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw dyffryn y brenin. 18Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i DDUW goruchaf: 19Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear: 20A bendigedig fyddo DUW goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl. 21A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth. 22Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr ARGLWYDD DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear, 23Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram: 24Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.
Dewis Presennol:
Genesis 14: BWMA
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018
© British and Foreign Bible Society 1955, 2018

: