Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef. Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad. Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu. Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo. Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.
Darllen 1 Ioan 2
Gwranda ar 1 Ioan 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Ioan 2:3-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos