Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau. Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion. A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da, ac a’u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb. A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.
Darllen Actau’r Apostolion 2
Gwranda ar Actau’r Apostolion 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau’r Apostolion 2:42-47
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos