A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd-dod; Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;) Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu: Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu. Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw: Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.
Darllen Effesiaid 2
Gwranda ar Effesiaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 2:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos