Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 13

13
1Pan lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw. 2Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi. 3Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu, ac fel mwg o’r ffumer. 4Eto myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, a’th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac nid oes Iachawdwr ond myfi.
5Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch, yn nhir sychder mawr. 6Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac anghofiasant fi. 7Ond mi a fyddaf fel llew iddynt; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt. 8Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difâf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt.
9O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gymorth. 10Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion? 11Rhoddais i ti frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid. 12Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef. 13Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab angall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant. 14O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt: byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.
15Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr Arglwydd o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol. 16Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.

Dewis Presennol:

Hosea 13: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda