Eseia 47
47
1Disgyn, ac eistedd yn y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus. 2Cymer y meini melin, a mala flawd; datguddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos trwy yr afonydd. 3Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf. 4Ein gwaredydd ni, ei enw yw Arglwydd y lluoedd, Sanct Israel. 5Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd.
6Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di: ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.
7A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi. 8Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd. 9Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diepiledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.
10Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni’m gwêl neb. Dy ddoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant; a dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi. 11Am hynny y daw arnat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw arnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti. 12Saf yn awr gyda’th swynion, a chydag amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymflinaist o’th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus. 13Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai a hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat. 14Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân a’u llysg hwynt; ni waredant eu heinioes o feddiant y fflam: ni bydd marworyn i ymdwymo, na thân i eistedd ar ei gyfer. 15Felly y byddant hwy i ti gyda’r rhai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei duedd; nid oes un yn dy achub di.
Dewis Presennol:
Eseia 47: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: