Eseia 50
50
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam. 2Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof nerth i achub? wele, â’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched. 3Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt. 4Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.
5Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl. 6Fy nghorff a roddais i’r curwyr, a’m cernau i’r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.
7Oherwydd yr Arglwydd Dduw a’m cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir. 8Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf. 9Wele, yr Arglwydd Dduw a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt.
10Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr Arglwydd, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr Arglwydd, ac ymddirieded yn ei Dduw. 11Wele, chwi oll y rhai ydych yn cynnau tân, ac yn eich amgylchu eich hunain â gwreichion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gyneuasoch. O’m llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.
Dewis Presennol:
Eseia 50: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: