Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion. Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
Darllen Diarhebion 1
Gwranda ar Diarhebion 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 1:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos