Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 76

76
SALM 76
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.
1Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.
2Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion.
3Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela.
4Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.
5Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.
6Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.
7Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter?
8O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,
9Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.
10Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.
11Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy.
12Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.

Dewis Presennol:

Y Salmau 76: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda