Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 77

77
SALM 77
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.
1A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd.
2Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.
3Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.
4Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.
5Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.
6Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.
7Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?
8A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?
9A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.
10A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.
11Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.
12Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
13Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni?
14Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.
15Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.
16Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.
17Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.
18Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.
19Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.
20Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

Dewis Presennol:

Y Salmau 77: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda