Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 81

81
SALM 81
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.
1Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.
2Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl.
3Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.
4Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.
5Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn.
6Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau.
7Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.
8Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf;
9Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.
10Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf.
11Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai.
12Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.
13O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
14Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
15Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.
16Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.

Dewis Presennol:

Y Salmau 81: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda