Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario’i arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad. Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea, a tua chwe chant o ddynion gydag e. Achïa oedd yn cario’r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf, brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o’r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd.
Roedd clogwyni uchel bob ochr i’r bwlch roedd Jonathan eisiau ei groesi i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau’r clogwyni oedd Botsets a Senne. Roedd un i’r gogledd ar ochr Michmas, a’r llall i’r de ar ochr Geba. Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario’i arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae’r un mor hawdd iddo fe achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.” A dyma’i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Dw i gyda ti bob cam.”
Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni. Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni. Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny’n arwydd fod yr ARGLWYDD yn eu rhoi nhw’n ein gafael ni.”
Felly dyma’r ddau’n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma’r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae’r Hebreaid yn dod allan o’r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!” Gwaeddodd y milwyr ar Jonathan a’i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.” Yna dringodd Jonathan i fyny ar ei bedwar, a’r gwas oedd yn cario’i arfau ar ei ôl. Dyma Jonathan yn taro gwylwyr y Philistiaid i lawr, ac yna roedd ei was yn ei ddilyn ac yn eu lladd nhw. Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a’i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na chan llath.
Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid. Roedden nhw’n panicio yn y gwersyll ac allan ar y maes – y fintai i gyd a’r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi’r panig yma.
Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw’n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad. Dyma Saul yn gorchymyn galw’i filwyr at ei gilydd i weld pwy oedd ar goll, a dyma nhw’n ffeindio fod Jonathan a’r gwas oedd yn cario’i arfau ddim yno. Yna dyma Saul yn dweud wrth Achïa’r offeiriad, “Tyrd â’r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.) Ond tra oedd Saul yn siarad â’r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.” A dyma Saul yn galw’i fyddin at ei gilydd a mynd allan i’r frwydr.
Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw’n lladd ei gilydd! Roedd yna Hebreaid oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn, a dyma nhw’n troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid gyda Saul a Jonathan. Wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau. Roedd y brwydro wedi lledu tu draw i Beth-afen.
Felly yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.