Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 13

13
Abeia yn frenin Jwda
(1 Brenhinoedd 15:1-8)
1Daeth Abeia yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd. 2Bu’n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Michaia, merch Wriel o Gibea.
Dyma ryfel yn dechrau rhwng Abeia a Jeroboam. 3Aeth Abeia allan i ryfel gyda byddin o filwyr dewr. Roedd ganddo bedwar can mil o ddynion arbennig. Dyma Jeroboam yn dod allan yn ei erbyn gyda byddin o wyth can mil o filwyr profiadol dewr. 4Dyma Abeia’n sefyll ar Fynydd Semaraïm sydd ym mryniau Effraim, a dweud, “Jeroboam ac Israel gyfan, gwrandwch arna i. 5Onid ydych chi’n gwybod bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi ymrwymo i roi’r frenhiniaeth i Dafydd a’i ddisgynyddion am byth? – a fydd hynny byth yn newid.#13:5 fydd hyn newid Hebraeg, “drwy ymrwymiad halen” (cf. Lefiticus 2:13 a Numeri 18:19). 6Ond mae Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, wedi gwrthryfela yn erbyn ei feistr. 7Casglodd griw o rapsgaliwns diwerth o’i gwmpas. Yna dyma fe’n herio Rehoboam, mab Solomon, pan oedd e’n ifanc ac ofnus a heb ddigon o nerth i sefyll yn ei erbyn.
8“A nawr dyma chi yn bwriadu sefyll yn erbyn teyrnas yr ARGLWYDD sydd wedi cael ei rhoi i ddisgynyddion Dafydd. Dych chi’n llu mawr gyda’r ddau darw aur mae Jeroboam wedi gwneud i fod yn dduwiau i chi. 9Ond dych chi wedi cael gwared a’r offeiriaid, meibion Aaron a’r Lefiaid, ac wedi gwneud offeiriaid eraill i chi’ch hunain fel y cenhedloedd. Bellach mae unrhyw un sy’n dod i gysegru ei hunan gyda tharw ifanc a saith hwrdd yn cael bod yn offeiriad i’r duw sydd ddim yn dduw. 10Ond ein Duw ni ydy’r ARGLWYDD, a dŷn ni heb droi oddi wrtho. Meibion Aaron ydy’n hoffeiriaid sy’n ei wasanaethu, a’r Lefiaid yn eu helpu. 11Maen nhw’n llosgi aberthau ac arogldarth persawrus i’r ARGLWYDD bob bore a hwyr. Nhw hefyd sy’n rhoi’r bara i’w osod ar y bwrdd sanctaidd, ac yn cynnau’r lampau ar y ganhwyllbren aur bob gyda’r nos. Dŷn ni’n dal i gadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Duw, ond dych chi wedi troi oddi wrtho. 12Sylwch, Duw ydy’n capten ni a thrwmpedau ei offeiriaid e sy’n ein galw i ryfel. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn Duw eich hynafiaid. Fyddwch chi ddim yn llwyddo.”
13Dyma Jeroboam yn anfon rhai o’i filwyr i fod yn barod i ymosod o’r tu cefn i fyddin Jwda. Felly tra oedd e’n wynebu Jwda, roedd eraill yn barod i ymosod o’r tu cefn. 14Dyma filwyr Jwda yn gweld y byddai’n rhaid iddyn nhw ymladd o’r tu blaen a’r tu ôl, a dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma’r offeiriad yn canu’r utgyrn, 15a dynion Jwda yn rhoi bloedd i ymosod, a dyma Duw yn taro Jeroboam a byddin Israel gyfan o flaen Abeia a byddin Jwda.
16Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen Jwda, a dyma Duw yn eu rhoi yng ngafael dynion Jwda. 17Lladdodd Abeia a’i ddynion nifer fawr ohonyn nhw. Roedd pum can mil o ddynion gorau Israel wedi syrthio’n farw. 18Collodd Israel y frwydr y diwrnod hwnnw, ac enillodd Jwda am ei bod wedi dibynnu ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. 19Dyma Abeia yn ymlid ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno drefi Bethel, Ieshana ac Effron a’r pentrefi o’u cwmpas.
20Wnaeth Jeroboam ddim ennill grym yn ôl yn ystod cyfnod Abeia. Yna dyma’r ARGLWYDD yn ei daro a bu farw. 21Yn y cyfamser, roedd Abeia’n dod yn fwy a mwy pwerus. Roedd ganddo un deg pedair o wragedd, ac roedd yn dad i ddau ddeg dau o feibion ac un deg chwech o ferched. 22Mae gweddill hanes Abeia, beth wnaeth e a’r pethau ddwedodd e, i’w gweld yn ysgrifau’r proffwyd Ido.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 13: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda