Eseia 44
44
Yr ARGLWYDD wedi dewis Israel
1Ond gwrando nawr, Jacob, fy ngwas,
ac Israel, yr un dw i wedi’i dewis.
2Dyma mae’r ARGLWYDD a’th wnaeth di yn ei ddweud – yr un wnaeth dy siapio di yn y groth; yr un sy’n dy helpu:
“Paid bod ag ofn, Jacob, fy ngwas,
Israel,#44:2 Israel Hebraeg, Jeshwrwn. Llysenw am Israel oedd yn golygu “yr un gonest”. yr un dw i wedi’i dewis.
3Fel dw i’n tywallt dŵr ar y ddaear sychedig,
a glaw ar dir sych,
bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar dy ddisgynyddion di,
a’m bendith ar dy blant.
4Byddan nhw’n tyfu fel glaswellt,
ac fel coed helyg ar lan ffrydiau o ddŵr.
5Bydd un yn dweud, ‘Dw i’n perthyn i’r ARGLWYDD’,
un arall yn cymryd yr enw ‘Jacob’,
ac un arall eto yn ysgrifennu ar ei law ‘eiddo’r ARGLWYDD’
ac yn galw’i hun yn ‘Israel’.”
6Dyma mae’r ARGLWYDD, Brenin Israel, yn ei ddweud – yr un sy’n eu rhyddhau nhw, yr ARGLWYDD hollbwerus:
“Fi ydy’r cyntaf, a fi ydy’r olaf!
Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi.
7Pwy sy’n debyg i mi?
Boed iddo honni’r peth a dadlau ei achos!
Dwedais i wrth bobl ers talwm beth oedd i ddod;
beth am iddo fe ddweud beth sy’n mynd i ddigwydd?
8Peidiwch bod ag ofn! Peidiwch dychryn!
Ydw i ddim wedi dweud wrthoch chi ers talwm?
Do, dw i wedi dweud, a chi ydy’r tystion!
Oes yna unrhyw dduw arall ar wahân i mi?
Na, does dim Craig arall; dw i ddim yn gwybod am un!
Ffolineb addoli eilunod
9Mae’r rhai sy’n gwneud eilunod
yn gwastraffu eu hamser.
Dydy’r pethau maen nhw mor hoff ohonyn nhw
yn dda i ddim!
A dydy’r rhai sy’n tystio iddyn nhw ddim yn gweld!
Dŷn nhw’n gwybod dim –
ac felly maen nhw’n cael eu cywilyddio.
10Pwy sy’n ddigon dwl i wneud duw
neu gastio delw all wneud dim?
11Mae pawb sy’n gweithio arno
yn cael eu cywilyddio.
Crefftwyr, ie, ond creaduriaid meidrol ydyn nhw.
Gadewch iddyn nhw ddod at ei gilydd i wneud safiad!
Byddan nhw’n cael eu dychryn a’u cywilyddio.
12Mae’r gof yn defnyddio’i offer
i baratoi’r metel ar y tân.
Mae’n ei siapio gyda morthwyl,
ac yn gweithio arno gyda nerth bôn braich.
Ond pan mae eisiau bwyd arno, mae ei nerth yn pallu;
heb yfed dŵr, byddai’n llewygu.
13Mae’r saer coed yn ei fesur gyda llinyn,
ac yn ei farcio gyda phensil;
mae’n ei lyfnhau gyda phlaen,
ac yn ei farcio gyda chwmpawd.
Yna mae’n ei gerfio ar siâp dynol,
yn gwneud iddo edrych fel bod dynol, a’i osod mewn teml.
14Mae’n torri coed cedrwydd;
mae’n dewis coeden gypres neu dderwen
sydd wedi tyfu’n gryf yng nghanol y goedwig.
Mae’n plannu coed pinwydd,
ac mae’r glaw yn gwneud iddyn nhw dyfu.
15Mae’n defnyddio peth o’r coed fel coed tân
i gadw ei hun yn gynnes.
Mae’n cynnau tân i bobi bara gydag e
ac yn defnyddio’r gweddill i wneud duw i’w addoli!
Mae’n cerfio eilun, ac yna’n plygu iddo!
16Mae’n llosgi ei hanner yn y tân
ac yn rhostio cig arno.
Mae’n bwyta’r cig nes bod ei fol yn llawn,
ac yn cynhesu o flaen y tân, ac yn dweud,
‘O, mae tân go iawn mor braf!’
17Wedyn mae’n defnyddio beth sydd ar ôl
i wneud eilun yn dduw iddo’i hun.
Mae’n plygu o’i flaen, ac yn ei addoli.
Mae’n gweddïo arno a dweud,
‘Achub fi – ti ydy fy Nuw i!’
18Dŷn nhw’n gwybod dim! Dŷn nhw ddim yn meddwl!
Maen nhw wedi mynd yn ddall,
ac mae eu meddyliau ar gau.
19Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud,
dŷn nhw’n gwybod nac yn deall dim:
‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân,
wedi pobi bara arno a rhostio cig i’w fwyta –
yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd,
a plygu i lawr i ddarn o bren!’
20Mae e’n bwyta ar bentwr o ludw.
Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn.
Mae’n methu achub ei hun na dod rownd i gyfaddef,
‘Twyll ydy’r peth sydd yn fy llaw i!’
Yr ARGLWYDD, y Crëwr a’r Achubwr
21Cofia’r pethau yma, Jacob
achos ti ydy fy ngwas i, Israel.
Fi wnaeth dy siapio di, ac rwyt ti’n was i mi –
fydda i ddim yn dy anghofio di, Israel.
22Dw i wedi ysgubo dy wrthryfel di i ffwrdd fel cwmwl,
a dy bechodau di fel niwl –
tro yn ôl ata i! Dw i wedi dy ryddhau di.”
23Canwch fawl, nefoedd, achos mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud!
Gwaeddwch yn uchel, ddyfnderoedd y ddaear!
Bloeddiwch, fynyddoedd, a’r fforestydd a’u holl goed!
Achos mae’r ARGLWYDD wedi rhyddhau Jacob,
ac wedi dangos ei ysblander yn Israel.
24Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy’n dy ryddhau di, yr un wnaeth dy siapio di yn y groth:
“Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud y cwbl:
fi fy hun wnaeth daenu’r awyr,
a lledu’r ddaear ar fy mhen fy hun.
25Fi sy’n torri swynion dewiniaid,
ac yn gwneud ffyliaid o’r rhai sy’n darogan;
gwneud i’r doethion lyncu eu geiriau,
a gwneud nonsens o’u gwybodaeth nhw.
26Dw i’n cadarnhau’r hyn mae fy ngwas yn ei ddweud,
ac yn gwneud beth mae ei negeswyr yn ei gynghori.
Dw i’n dweud wrth Jerwsalem, ‘Bydd pobl yn byw ynot ti’,
ac wrth bentrefi Jwda, ‘Byddwch yn cael eich adeiladu;
dw i’n mynd i ailgodi’r adfeilion.’
27Fi ydy’r un ddwedodd wrth y môr, ‘Bydd sych!’
ac wrth yr afonydd, ‘Dw i’n mynd i’ch sychu chi!’
28A fi hefyd sy’n dweud wrth Cyrus, ‘Fy mugail wyt ti.’#2 Cronicl 36:23; Esra 1:2
Bydd e’n gwneud beth dw i eisiau!
Bydd yn dweud wrth Jerwsalem, ‘Cei dy adeiladu eto’,
ac wrth y Deml: ‘Cei dy ailsefydlu’.”
Dewis Presennol:
Eseia 44: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023