Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel: I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn, ac i ti ddeall beth sy’n gyngor call. I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog, yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg. I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall, a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc. (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy, a’r rhai sy’n gall yn derbyn arweiniad.) Hefyd, i ti ddeall dihareb a gallu dehongli dywediadau doeth a phosau. Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf at wybodaeth; does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn.
Darllen Diarhebion 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 1:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos