Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 81

81
Cân i’r Ŵyl
I’r arweinydd cerdd: Salm Asaff, ar yr alaw, “Y Gwinwryf”.
1Canwch yn llawen i Dduw, ein nerth!
Gwaeddwch yn uchel ar Dduw Jacob!
2Canwch gân, taro’r drwm,
a chanu’r delyn fwyn a’r nabl!
3Seiniwch y corn hwrdd#81:3 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. ar y lleuad newydd,
ar ddechrau’r Ŵyl pan mae’r lleuad yn llawn.
4Dyma’r drefn yn Israel;
gorchymyn wedi’i roi gan Dduw Jacob.
5Rhoddodd hi’n rheol i bobl Joseff
pan ymosododd ar yr Aifft i’w gollwng yn rhydd.
Dw i’n clywed iaith dw i ddim yn ei deall –
6“Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau,
a dy ollwng yn rhydd o orfod cario’r fasged.
7Dyma ti’n gweiddi yn dy argyfwng, a dyma fi’n dy achub;
atebais di o’r lle dirgel lle mae’r taranau.
Yna dy roi ar brawf wrth Ffynnon Meriba.#Exodus 17:7; Numeri 20:13
Saib
8Gwrandwch, fy mhobl, dw i’n eich rhybuddio chi!
O na fyddet ti’n gwrando arna i, Israel!
9Ti ddim i gael duw arall
na phlygu i lawr i addoli duw estron.
10Fi, yr ARGLWYDD ydy dy Dduw di.
Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.
Agor dy geg, a bydda i’n dy fwydo!
11Ond wnaeth fy mhobl ddim gwrando.
Wnaeth Israel ddim ufuddhau i mi;
12felly dyma fi’n gadael iddyn nhw fod yn ystyfnig
a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.
13O na fyddai fy mhobl yn gwrando arna i!
O na fyddai Israel yn fy nilyn i!
14Byddwn i’n trechu eu gelynion nhw yn syth;
ac yn ymosod ar y rhai sy’n eu gwrthwynebu nhw.”
15(Boed i’r rhai sy’n casáu’r ARGLWYDD wingo o’i flaen –
dyna eu tynged nhw am byth!)
16“Byddwn i’n bwydo Israel â’r ŷd gorau,
ac yn dy fodloni gyda mêl o’r graig.”

Dewis Presennol:

Salm 81: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda