Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 87

87
Canmol Jerwsalem
Salm gan feibion Cora. Cân.
1Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd!
2Mae’r ARGLWYDD yn caru dinas Seion
yn fwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob.
3Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti,
O ddinas Duw.
Saib
4Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy’n fy nabod i
– Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica#87:4 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh. Yr ardal i’r de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. hefyd –
dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”
5A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion:
“Cafodd pob un o’r rhain eu geni yno!
Mae’r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi’n ddiogel!”
6Bydd yr ARGLWYDD yn cofrestru’r cenhedloedd:
“Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”
Saib
7Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani:
“Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”

Dewis Presennol:

Salm 87: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda