A minnau, pan ddeuthum atoch, gyfeillion, ni ddeuthum fel un yn rhagori mewn huodledd neu ddoethineb, wrth gyhoeddi i chwi ddirgelwch Duw. Oherwydd dewisais beidio â gwybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, ac yntau wedi ei groeshoelio. Mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr y bûm i yn eich plith; a'm hymadrodd i a'm pregeth, nid geiriau deniadol doethineb oeddent, ond amlygiad sicr o'r Ysbryd a'i nerth, er mwyn i'ch ffydd fod yn seiliedig, nid ar ddoethineb ddynol, ond ar allu Duw.
Darllen 1 Corinthiaid 2
Gwranda ar 1 Corinthiaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 2:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos