Yr ydym yn gofyn ichwi, gyfeillion, barchu'r rhai sydd yn llafurio yn eich plith, yn arweinwyr arnoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori, a synio'n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith. Byddwch yn heddychlon yn eich plith eich hunain. Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb. Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb. Llawenhewch bob amser. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. Peidiwch â diffodd yr Ysbryd; peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau. Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni. Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn. Gyfeillion, gweddïwch drosom ninnau. Cyfarchwch y cyfeillion i gyd â chusan sanctaidd. Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!
Darllen 1 Thesaloniaid 5
Gwranda ar 1 Thesaloniaid 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Thesaloniaid 5:12-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos